Archif Dyddiol: 26 Mehefin 2009

Cwrw Coch

Ymweliad sydyn a Brwsel. Heb gael fawr o amser i ymlacio (neu dim amser o gwbl i fod yn gywir). Bwyd Eidaleidd werth ei gael yn Massimiliano, Rue Sainte Anne.  Carpaccio tiede de poulpe arbennig a digon a Vino Nobile de Montepulciano i fynd gyda fe (er na nodais cynhyrchwr y gwin).

Fell er bod yr haul yn gwenu trwy gydol y daith dim ond Rodenbach tawel hwyr ym mar y gwesty lwyddais i’w flasu o holl ogoniant cwrw Belg.

Siomedigaeth

Heb flogio am berfformiad Van Morrison yng Nghanolfan y Mileniwm eto. A hynny am reswm syml – mod i’n hynod siomedig a’r holl achlysur. Gormod o’r “muso” gan Van a’i fand i fi o lawer gyda phob un can yn dioddef o solos estynedig. Dewis diflas o ganeuon, o ystyried y gatalog sy gyda fe, ac – fel sy’n arferol gyda fe efallai – bron ag anwybyddu’r gynulleidfa.

Yn ogystal,  gan fod ein tocynnau ni yn rhai reit uchel yn Theatr Donald Gordon,  roedd hi’n dwym uffernol ac roedd y seddi yn anghyfforddus tu hwnt.

Basai wedi bod yn well gwario fy £45 dros un o’r bars yn Atlantic Wharf gyfagos.

Uchelbwynt y noson oedd y Dim Sum a’r Daquiri yn Ba Orient. Doedd y rheina ddim yn arbennig ond ro’n nhw’n well na Van. Fel ffan ers o’n i yn y brifysgol rwy’n dal yn ddiflas wrth feddwl amdano fe.